Dyma’r rhifyn diweddaraf o’n mynegai ‘Bywyd yn y DU – Cymru’, a chan fod gennym dueddiadau data sy’n cwmpasu pedair blynedd, gallwn edrych ar y sefyllfa dros gyfnod ychydig yn hirach o ran sut mae pobl ledled Cymru yn byw.
- Democracy
- Economy
- Environment
- Evidence and reports
- Inequality
- Measuring wellbeing
- Society
- Carnegie UK
- 2 November 2026
- ISBN: 978-1-917536-19-6
- 28 minute read
Ein llesiant cyfunol yng Nghymru 2026
Mae llesiant cyfunol yn ymwneud â phawb yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt i fyw’n dda yn awr ac yn y dyfodol. Mae’n mynd y tu hwnt i hapusrwydd neu iechyd unigolyn. Yn hytrach, mae’n edrych ar y darlun cyfannol, mwy: sut mae ein cymdeithas, ein heconomi, ein hamgylchedd a’n democratiaeth yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl a chymunedau.
Y sgôr gyffredinol ar gyfer llesiant cyfunol yng Nghymru yn 2026 yw 61 allan o 100 posibl.
Er bod pob sgôr wedi symud un pwynt neu fwy ers 2025, nid yw’r newidiadau hyn wedi bod yn ystadegol arwyddocaol yng Nghymru.
Mae llesiant cyfunol a phob maes wedi’u siapio gan amrywiaeth eang o ffactorau, y mae pob un ohonynt yn cymryd amser i siapio a chael effaith. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod cynnydd cadarnhaol ystyrlon ar draws meysydd eto i ddigwydd yng Nghymru.

Deall beth sy’n dylanwadu ar lesiant cyfunol
Mae’r diffyg newid sy’n ystadegol arwyddocaol yn y sgoriau eleni yn awgrymu bod llesiant cyfunol yng Nghymru yn llonydd.
Mae’r mynegai yn dangos bod pobl yn profi lefelau lles gwahanol iawn yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, a bod bywyd yng Nghymru yn dal i gael ei lunio gan anghydraddoldebau rhwng cymunedau ac o fewn cymunedau.
Yn 2026, mae’r ffactorau canlynol yn sefyll allan fel rhai sy’n arbennig o arwyddocaol wrth ragweld sgôr llesiant cyfunol is neu uwch yng Nghymru:
- Bod yn anabl. Mae gan bobl anabl sgôr llesiant cyfunol o 52, 12 pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer y rhai nad ydynt yn anabl (64).
- Incwm aelwyd is. Mae gan bobl ag incwm aelwyd o dan £26,000 y flwyddyn sgôr llesiant cyfunol o 54, 12 pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer y rhai y mae eu hincwm aelwyd blynyddol rhwng £52,000 a £99,999 (66).
- Bod yn 55 oed a hŷn. Mae gan bobl 55 oed a hŷn sgôr llesiant cyfunol o 65, saith pwynt yn uwch na’r sgôr ar gyfer y rhai 16 i 34 oed (58).1
- Bod yn raddedig. Mae gan raddedigion sgôr llesiant cyfunol o 65, chwe phwynt yn uwch na’r sgôr ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion (59).
Mae’r ffactorau canlynol hefyd yn ddylanwadau nodedig ar lesiant cyfunol:
Byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae gan bobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (IMD1) sgôr llesiant cyfunol o 53, 15 pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (68).2
Plant yn yr aelwyd. Mae gan bobl sydd â phlant o dan 16 oed yn eu haelwyd sgôr llesiant cyfunol o 56, saith pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer y rhai sydd heb blant yn yr aelwyd (63).3
Map llesiant cyfunol
Mae lles cymdeithasol yn ymwneud â gallu pawb i wireddu eu potensial a chyfrannu at gymdeithas, oherwydd bod eu hanghenion
sylfaenol wedi’u diwallu. Mae ein hanghenion sylfaenol yn cynnwys teimlo’n iach, cael mynediad at wasanaethau, teimlo’n ddiogel yn ein cymunedau a theimlo cysylltiad â hwy, yn ogystal â bod yn rhydd rhag gwahaniaethu.
Er mwyn pennu tueddiadau mewn lles cymdeithasol ledled Cymru, gofynnwyd cwestiynau am fynediad at wasanaethau, perthnasoedd cymunedol, diogelwch a chydlyniant cymunedol, ac iechyd ac iechyd meddwl a hunan-adroddwyd.
Y grwpiau sydd fwyaf tebygol o brofi lefelau uchel o les cymdeithasol yng Nghymru yn 2026 yw:
- Pobl 55 oed a hŷn, sydd â sgôr lles cymdeithasol o 77 – sef 10 pwynt yn uwch na’r sgôr ar gyfer y rhai rhwng 16 a 34 oed (67).
Y grwpiau sydd fwyaf tebygol o brofi lefelau isel o les cymdeithasol yng Nghymru yn 2026 yw:
- Pobl anabl, sydd â sgôr lles cymdeithasol o 60 – sef 17 pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl (77).
Lles cymdeithasol: dadansoddiad o’r canlyniadau
Mae profiadau o wahaniaethu wedi cynyddu dros y tair blynedd ddiwethaf, ac mae canfyddiadau o ddiogelwch cymunedol yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd y DU.
Mae’r ffigurau isod yn dangos y tueddiadau ers 2023 yn y cwestiynau a ofynnwyd gennym ynghylch llesiant cymdeithasol.
Canfyddiadau o iechyd cyffredinol ac iechyd meddwl
- Mae chwech allan o ddeg (61%) o bobl yn dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda – chwe phwynt canran yn is na chyfartaledd y DU.
- Mae un o bob deg (11%) o bobl yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn wael – sefyllfa sy’n debyg i 2025, ond sy’n bedwar pwynt canran yn uwch nag yn 2024.
Cydlyniant cymunedol
- Mae tri chwarter (76%) o bobl yn teimlo’n ddiogel yn cerdded ar eu pen eu hunain yn eu cymdogaeth ar ôl iddi nosi – ffigur sydd bum pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU.
- Nid yw un o bob saith (15%) o bobl yn teimlo y gallent ddibynnu ar rywun yn eu cymdogaeth i’w helpu; mae hyn yn debyg i’r llynedd, ond yn uwch nag yn 2024.
- Adroddodd 44% o bobl eu bod wedi profi gwahaniaethu yn y 12 mis cyn yr arolwg – sef 11 pwynt canran yn uwch nag yn 2023.
Mynediad at wasanaethau
- Mae 28% o bobl yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus sy’n mynd â nhw i’r lleoedd y mae angen iddynt fynd iddynt – ffigur sydd 10 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU.
- Mae bron un o bob deg o bobl (9%) yn ei chael hi’n anodd mynd i siop fwyd neu archfarchnad yn bersonol – ffigur sy’n bedwar pwynt canran yn uwch na’r llynedd.
- Mae ychydig yn llai na hanner (46%) y bobl yn ei chael hi’n anodd cael apwyntiad gyda meddyg teulu ar adeg pan fydd ei angen arnynt – gwelliant o un pwynt canran ar ddeg ers 2023.
Crynodeb
Mae sgôr lles cymdeithasol Cymru o 72 allan o 100 yn 2026 yn debyg i’r hyn a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Er ei fod ddau bwynt yn is na’r hyn a welwyd yn 2023, 2024 a 2025, nid yw hwn yn ostyngiad sy’n ystyrlon yn ystadegol, ac mae’n rhywbeth y byddwn yn parhau i’w fonitro. Hefyd, nid yw sgôr lles cymdeithasol Cymru yn uwch na chyfartaledd y DU mwyach, sef y sefyllfa a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Ychydig o newidiadau sydd wedi bod i lawer o’r ffactorau sylfaenol sy’n sail i les cymdeithasol. Mae iechyd cyffredinol yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU, ond nid oes unrhyw welliannau na dirywiadau parhaus wedi digwydd; mae iechyd meddwl hefyd, i raddau helaeth, yn adlewyrchu sgoriau blynyddoedd blaenorol. Ar nodyn cadarnhaol, mae llai o bobl yn ei chael hi’n anodd cael apwyntiad gyda meddyg teulu pan fydd ei angen arnynt, o’i gymharu â 2023.
Fodd bynnag, mae cynnydd wedi bod yng nghyfran y bobl sy’n profi gwahaniaethu ers arolwg cyntaf Bywyd yn y DU yn 2023. Yn yr un modd, bu dirywiad o ran pa mor hawdd y mae pobl yn ei chael hi i gyrraedd siop groser neu archfarchnad.
Lles economaidd yng Nghymru 2026
Mae Cymru yn sgorio 69 allan o 100 posibl am les economaidd.
Mae lles economaidd yn golygu bod gan bawb safon byw sylfaenol weddus a’u bod yn gallu ymdopi â siociau ariannol. Mae hyn yn
cynnwys mynediad at incwm gweddus, fforddiadwyedd, gwydnwch ariannol, cyfleoedd gwaith a sgiliau.
Er mwyn nodi tueddiadau o ran lles economaidd ledled Cymru, gofynnom gwestiynau am sgiliau ac argaeledd swyddi, yn ogystal â fforddiadwyedd eitemau hanfodol fel bwyd a tanwydd.
Y bobl sydd fwyaf tebygol o brofi lefelau uchel o les economaidd yng Nghymru yn 2026 yw:
- Pobl 55 a hŷn, sydd â sgôr llesiant economaidd o 75, 11 yn uwch na’r sgôr ar gyfer y rhai 16 i 34 oed (64).
- Graddedigion, sydd â sgôr llesiant economaidd o 75, naw pwynt yn uwch na’r sgôr ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion (66).
- Dynion, sydd â sgôr llesiant economaidd o 70, dau bwynt yn uwch na’r sgôr ar gyfer menywod (68).
Dyma’r grwpiau sydd fwyaf tebygol o brofi lefelau isel o lesiant economaidd yng Nghymru yn 2026:
- Pobl ag incwm aelwyd blynyddol o dan £26,000, sydd â sgôr llesiant economaidd o 55, 23 pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer y rhai ag incwm blynyddol sy’n uwch na £52,000 (78).
- Pobl anabl, sydd â sgôr llesiant economaidd o 59, 13 pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer y rhai nad ydynt yn anabl (72).
- Pobl sydd ag un neu fwy o blant dan 16 oed yn eu haelwyd, sydd â sgôr llesiant economaidd o 62, naw pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer y rhai sydd heb blant yn eu haelwyd (71).
- Pobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (IMD1), sydd â sgôr lles economaidd o 58 – sef 19 pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (77).
Lles economaidd: dadansoddiad o’r canlyniadau
Mae’r cwestiynau sy’n sail i les economaidd i raddau helaeth heb newid. Fodd bynnag, mae boddhad â chyfleoedd gwaith lleol wedi cyrraedd y lefel isaf a gofnodwyd erioed gan ‘Life in the UK’ yng Nghymru.
Mae’r ffigurau isod yn dangos y tueddiadau ers 2023 o ran y cwestiynau rydym yn eu gofyn ynglŷn â lles economaidd.
Canfyddiadau ynghylch addysg, sgiliau a chyfleoedd gwaith lleol
- Mae pedwar o bob pump (79%) o bobl yng Nghymru yn fodlon ar eu haddysg a’u sgiliau, sy’n debyg i flynyddoedd blaenorol.
- Mae llai nag un o bob pump (17%) o bobl yng Nghymru yn fodlon ar argaeledd swyddi yn eu hardal leol. Mae hyn wyth pwynt canran yn is na’r llynedd, tri-ar-ddeg pwynt canran yn is na 2023, a phum pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU.
Fforddiadwyedd eitemau hanfodol
- Mae 7% o bobl yng Nghymru yn methu fforddio prynu digon o fwyd i bawb yn yr aelwyd; mae hyn yn debyg i flynyddoedd blaenorol ac i gyfartaledd y DU.
- Ni all un o bob saith (14%) o bobl yng Nghymru fforddio cadw eu cartref yn ddigon cynnes, yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol a chyfartaledd y DU.
- Mae bron traean o bobl yng Nghymru (32%) yn dweud na allant fforddio talu cost annisgwyl ond angenrheidiol o £850, yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol.
Fforddiadwyedd gweithgareddau hamdden
- Mae pedwar o bob pump (80%) o bobl yng Nghymru yn cytuno y gallant fforddio cymdeithasu y tu allan i’w cartref unwaith y mis os dymunant, sy’n debyg i flynyddoedd blaenorol.
- Does dim modd i chwarter (24%) o bobl fforddio talu am wyliau blynyddol o wythnos i ffwrdd o’r cartref – sefyllfa sy’n debyg i flynyddoedd blaenorol.
Crynodeb
Mae lles economaidd yng Nghymru yn parhau i fod yn debyg i flynyddoedd blaenorol. Fel gyda lles cymdeithasol, mae’r rhan fwyaf o’r ffactorau sy’n sail i les economaidd yn parhau i fod yn sefydlog, neu dim ond amrywiadau bach a welwyd ynddynt eleni.
Yn gyffredinol, mae lles economaidd yng Nghymru hefyd yn cyd-fynd i raddau helaeth â lles y DU yn ei chyfanrwydd; ychydig o wahaniaethau sydd i’w gweld mewn meysydd fel gallu pobl i fforddio pethau sylfaenol bywyd, a’u boddhad ag addysg a sgiliau.
Yr eithriad yw’r boddhad â chyfleoedd gwaith; mae hwn wedi dangos tuedd ar i lawr ers i *Life in the UK* ddechrau cyhoeddi adroddiadau yn 2023, ac mae wedi gostwng yn fwy sylweddol ers 2025. Ar hyn o bryd, dim ond 17% o bobl yng Nghymru sy’n fodlon ar argaeledd cyfleoedd gwaith yn eu hardal leol, o’i gymharu â 30% dair blynedd yn ôl. Mae’r patrwm hwn i’w weld ar draws rhan helaeth o’r DU, ond mae’n fwy amlwg yng Nghymru.
Lles amgylcheddol yng Nghymru 2026
Mae Cymru yn sgorio 64 allan o 100 posibl am les amgylcheddol.
Mae llesiant amgylcheddol yn golygu bod gan bawb fynediad at fannau gwyrdd a glas a’n bod yn byw o fewn adnoddau naturiol y blaned, gan ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Er mwyn pennu tueddiadau mewn llesiant amgylcheddol ledled Cymru, gwnaethom ofyn cwestiynau am fynediad i barciau lleol, afonydd a mannau gwyrdd a glas eraill ac ansawdd y rhain, ac am lygredd sŵn, llygredd aer a sbwriel mewn ardaloedd lleol. Gwnaethom hefyd ofyn am lefelau boddhad gydag ymdrechion i ddiogelu’r amgylchedd.
Dyma’r bobl fwyaf tebygol o brofi lefelau uchel o lesiant amgylcheddol yng Nghymru yn 2026:
- Pobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (IMD5), sydd â sgôr llesiant amgylcheddol o 72 ar gyfartaledd, 18 pwynt yn uwch na’r sgôr ar gyfer y rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (54).
- Pobl 55 oed a hŷn, sydd â sgôr llesiant amgylcheddol o 69 ar gyfartaledd, 10 pwynt yn uwch na’r sgôr ar gyfer pobl ifanc 16 i 34 oed (59). Mae gan bobl rhwng 35 a 54 oed hefyd sgôr llesiant amgylcheddol uwch o 61.
- Pobl sy’n byw mewn ardal wledig, sydd â sgôr llesiant amgylcheddol o 71, 11 pwynt yn uwch na’r sgôr ar gyfer y rhai mewn ardaloedd trefol (60).
Dyma’r grŵp sydd fwyaf tebygol o brofi lefelau isel o lesiant amgylcheddol yng Nghymru yn 2026:
- Pobl anabl, sydd â sgôr llesiant amgylcheddol o 56, 11 pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl (67).
Lles amgylcheddol: dadansoddiad o’r canlyniadau
Mae’r cwestiynau sy’n sail i les amgylcheddol wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth yng Nghymru, er bod problemau’n parhau i fod yn gyffredin ac mae’r canlyniadau’n dal i fod yn wahanol i’r rhai mewn rhannau eraill o’r DU.
Mae’r ffigurau isod yn dangos y tueddiadau ers 2023 yn y cwestiynau rydym yn eu gofyn ynglŷn â lles amgylcheddol.
Materion yn ymwneud ag ansawdd yr amgylchedd lleol
- Mae ychydig dros dri chwarter (61%) o bobl yn dweud eu bod wedi profi problemau gyda llygredd sŵn yn eu hardal leol. Mae hyn 10 pwynt canran yn uwch na’r sgôr yn yr Alban, ac wyth pwynt canran yn uwch na’r sgôr yng Ngogledd Iwerddon.
- Mae bron hanner (48%) y bobl yn profi problemau gydag ansawdd aer, 12 pwynt canran yn uwch na’r sgôr yn yr Alban ond saith pwynt canran yn is na’r sgôr yn Lloegr. Erbyn hyn mae pobl yng Nghymru yr un mor debygol o brofi problemau gydag ansawdd aer â pheidio.
- Mae 85% o bobl yng Nghymru yn cael problemau gyda sbwriel yn eu hardal leol, yn debyg i gyfartaledd y DU.
Canfyddiad o ofodau cyhoeddus, gwyrdd neu agored lleol ac ymdrechion i warchod yr amgylchedd yn y DU
- Mae saith o bob deg (70%) o bobl yng Nghymru yn fodlon ag ansawdd y man cyhoeddus, gwyrdd agored yn eu hardal leol.
- Mae tri o bob deg (29%) o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn fodlon ag ymdrechion i ddiogelu’r amgylchedd yn y DU.
Crynodeb
Ar 64, mae lles amgylcheddol yng Nghymru wedi aros yn gymharol sefydlog ers i *Life in the UK* ddechrau adrodd yn 2023. Fodd bynnag, er bod Cymru wedi dangos lefel uwch o les amgylcheddol na chyfartaledd y DU yn y blynyddoedd blaenorol, mae dirywiadau bach yn golygu nad yw hyn yn wir bellach yn 2026.
Mae problemau sy’n ymwneud â materion fel llygredd sŵn, ansawdd aer, a sbwriel neu wastraff yn ardaloedd lleol pobl yn parhau i fod yn gyffredin; yn wir, mae mwy o bobl yn anfodlon nag yn fodlon ar yr ymdrechion i warchod yr amgylchedd yn y DU. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar ansawdd y mannau cyhoeddus, gwyrdd neu agored yn eu hardaloedd lleol.
Lles democrataidd yng Nghymru 2026
Mae gan Gymru sgôr o 39 allan o 100 posibl ar gyfer llesiant democrataidd.
Mae llesiant democrataidd yn golygu bod gan bawb lais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae hyn yn golygu bod ag arweinwyr lleol a chenedlaethol sy’n cefnogi cyfranogiad, yn meithrin ymddiriedaeth ac yn annog amrywiaeth.
Er mwyn deall llesiant democrataidd yng Nghymru yn 2026, gwnaethom ofyn cwestiynau am lefelau ymddiriedaeth mewn llywodraeth(au) lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn ogystal â sefydliadau cenedlaethol eraill, a chanfyddiadau o allu personol i ddylanwadu ar benderfyniadau.
Er eu bod yn sylweddol isel yn gyffredinol, a’r isaf o unrhyw un o’n pedwar maes llesiant, dyma’r bobl sydd â’r lefelau uchaf o lesiant democrataidd yng Nghymru yn 2026:
- Graddedigion, sydd â sgôr llesiant democrataidd o 44 ar gyfartaledd, saith pwynt yn uwch na’r sgôr ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion (37).
Dyma’r grŵp sydd fwyaf tebygol o brofi lefelau isel o lesiant democrataidd yng Nghymru yn 2026:
- Pobl ag incwm aelwyd blynyddol o dan £26,000, sydd â sgôr llesiant democrataidd o 35, saith pwynt yn is na’r sgôr ar gyfer y rhai sydd ag incwm aelwyd blynyddol o fwy na £52,000 y flwyddyn (42).
Lles democrataidd: dadansoddiad o’r canlyniadau
Er ei bod yn isel, mae ymddiriedaeth yn y llywodraeth a chanfyddiadau o allu pobl i ddylanwadu ar benderfyniadau wedi gwella, ond mae ymddiriedaeth mewn rhai sefydliadau eraill yn gostwng.
Mae’r ffigurau isod yn dangos y tueddiadau ers 2023 yn y cwestiynau a ofynnwyd gennym ynghylch llesiant democrataidd.
Canfyddiadau o’r gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau
- Dim ond 8% o bobl sy’n cytuno y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar y DU, er bod hyn chwe phwynt canran yn uwch nag yn 2023.
- Dim ond 14% o bobl sy’n credu y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru, er bod hyn chwe phwynt canran yn uwch na’r llynedd.
- Mae pobl ychydig yn fwy tebygol o deimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, er mai dim ond ychydig llai nag un o bob pump (18%) sy’n cytuno o hyd – sefyllfa sy’n debyg i flynyddoedd blaenorol.
Ymddiriedaeth mewn llywodraethau a gwleidyddion
- Mae gan dros hanner (53%) y bobl yng Nghymru ymddiriedaeth isel yn Llywodraeth y DU, yr un peth â’r llynedd, er bod y gyfran ag ymddiriedaeth uchel wedi cynyddu ers 2024.
- Er mai dim ond 5% o bobl yng Nghymru sydd ag ymddiriedaeth uchel mewn ASau, mae hyn wedi cynyddu ers 2023.
- Ychydig yn llai na thraean (31%) o bobl yng Nghymru sydd â lefel isel o ymddiriedaeth yn eu cyngor lleol.
Ymddiriedaeth yn Llywodraeth Cymru a gwleidyddion
- Mae gan ychydig dros draean (36%) ymddiriedolaeth isel yn Llywodraeth Cymru, gwelliant saith pwynt canran ers y llynedd ond yr un peth ag yn 2023.
- Mae gan ychydig o dan 1 o bob 10 (8%) o bobl ymddiriedaeth uchel yn aelodau Senedd Cymru, yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol.
Ymddiriedaeth mewn sefydliadau
- Mae ymddiriedaeth mewn sefydliadau sifil wedi aros yn weddol debyg ers i’r arolwg ddechrau; mae bron un o bob pump (18%) yn nodi lefel isel o ymddiriedaeth yn yr heddlu a banciau, ac mae un o bob pedwar (25%) yn nodi lefel isel o ymddiriedaeth yn y system gyfreithiol a’r llysoedd.
Ymddiriedaeth mewn cyfryngau a thechnoleg
- Mae ychydig yn llai na dau o bob pump (38%) o bobl yn rhoi lefel isel o ymddiriedaeth yn y cyfryngau newyddion; mae hyn yn debyg i flynyddoedd blaenorol ac i gyfartaledd y DU.
- Mae gan bron i ddwy ran o dair (64%) o bobl lefel isel o ymddiriedaeth mewn cyfryngau cymdeithasol – wyth pwynt canran yn uwch nag yn 2023. Dim ond 1% o bobl sydd â lefel uchel o ymddiriedaeth.
- Mae gan hanner (49%) o bobl lefel isel o ymddiriedaeth mewn cwmnïau technoleg mawr (e.e. Google neu Apple) – sef trittein pwynt canran yn uwch nag yn 2023.
Crynodeb
Fel yn y blynyddoedd blaenorol ac fel mewn awdurdodaethau eraill, mae llesiant democrataidd, sydd â sgôr o 39, yn parhau i fod yn llawer is na llesiant mewn meysydd bywyd eraill. Fodd bynnag, er na welwyd unrhyw newidiadau cyffredinol ar lefel maes, bu gwelliannau mewn rhai meysydd llesiant democrataidd.
Mae’n parhau i fod yn wir bod ychydig o bobl yn teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ond cafwyd gwelliannau bach, yn y Gymru gyfan ac ar lefel y DU. Yn yr un modd, er bod lefel uchel o ymddiriedaeth yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn anghyffredin (8% a 14%, yn y drefn honno), cafwyd rhywfaint o welliant.
Nid yw ymddiriedaeth mewn cynghorau lleol wedi newid, gyda thua thraean o bobl yn nodi ymddiriedaeth isel, a chyfran debyg i flynyddoedd blaenorol yn teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol.
Mae cyfran y bobl nad ydynt yn ymddiried mewn cwmnïau technoleg mawr wedi cynyddu o gymharu â 2023 a 2024, ac mae’r ymddiriedaeth mewn cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed yn is. Mae llawer o bobl hefyd yn dangos lefel isel o ymddiriedaeth yn y cyfryngau newyddion.
Mae ymddiriedaeth mewn sefydliadau sifil, fel yr heddlu a banciau, yn uwch nag mewn sefydliadau eraill y gofynnwn amdanynt; mae tua chwarter y bobl yn rhoi lefel uchel o ymddiriedaeth yn y naill a’r llall.
Cysylltwch
Want to chat about Life in the UK 2026 Wales? Get in touch with Susan.
- Roedd maint y sampl ar gyfer pobl 16 i 34 oed yn llai nag ar gyfer grwpiau eraill – sef 56 o bobl – felly dylid ystyried y canfyddiadau gyda gofal. ↩︎
- Mae Mynegeion Amddifadedd Lluosog (IMD) yn fesur o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd daearyddol bach, sefydlog yn y DU. Mae IMD yn dosbarthu’r ardaloedd hyn yn bum kwintil yn seiliedig ar anfantais gymharol; kwintil 1 (‘IMD1’) yw’r mwyaf amddifadus, a kwintil 5 (‘IMD5’) yw’r lleiaf amddifadus. Roedd meintiau’r sylfeini ar gyfer y rhai yn IMD1 (98) ac IMD5 (97) yn llai nag ar gyfer grwpiau eraill; felly, dylid ystyried y canfyddiadau gyda gofal. ↩︎
- Roedd maint y sylfaen ar gyfer pobl â phlant yn yr aelwyd yn llai nag ar gyfer grwpiau eraill – sef 78 o bobl – felly dylid trin y canfyddiadau gyda gofal. ↩︎
Help us make the case for wellbeing policy
Keep in touch with Carnegie UK’s research and activities. Learn more about ways to get involved with our work.
"*" indicates required fields


Lles cymdeithasol yng Nghymru 2026
Mae Cymru yn sgorio 72 allan o 100 posibl am les cymdeithasol.